Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
8 Gorffennaf 2020
Amser y
cyfarfod: 11.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6394
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau
yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, penderfynodd y
Llywydd bod Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn
gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.
Gwnaeth y Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog
34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y
Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y
cyhoedd. Roedd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a
bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd
arferol.
Datganiadau ar Srebrenica
Dechreuodd yr eitem am 11.02
Gwnaeth y Llywydd, y Prif Weinidog a David Melding ddatganiadau am Srebrenica
Datganiad gan y Llywydd
Dechreuodd yr eitem am 11.08
Croesawodd y Llywydd Laura Anne Jones, yr Aelod newydd dros ranbarth Dwyrain De Cymru, a’i gwahodd i ddweud ychydig o eiriau.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 11.12
Gofynnwyd cwestiynau 1-3 a 5-7. Tynnwyd cwestiwn 4 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 12.07
3 Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg
Dechreuodd yr eitem am 12.23
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Am 13.14 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro tan 14.01.
4 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 14.01
Gofynnwyd cwestiynau 1-4 a 6-9. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 6 ac 8 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
5 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 14.48
I’w ateb gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y gefnogaeth fydd ar gael i'r celfyddydau yng Nghymru ar ôl i Lywodraeth Prydain gyhoeddi pecyn i gefnogi'r sector ymdopi ag effeithiau Covid-19?
I’w ateb gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn dilyn adroddiadau bod Ineos yn ailystyried ei benderfyniad i adeiladu ffatri newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr?
6 Datganiad gan y Weinidog Addysg: Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 15.13
7 Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Ffermio Cynaliadwy: dyfodol y gefnogaeth i amaethyddiaeth
Dechreuodd yr eitem am 16.09
8 Dadl y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Effaith Covid-19 ar Chwaraeon
Dechreuodd yr eitem am 16.50
NDM7344 Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith yr achosion o Covid-19 ar chwaraeon, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mehefin 2020.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Am 17.23, cafwyd egwyl technegol, ailddechreuodd y trafodion am 17.25.
9 Dadl y Pwyllgor Deisebau - Deiseb P-05-967 -Annog Llywodraeth Cymru i ddiwygio ei pholisi ar ryddhad ardrethi annomestig i helpu i gadw siopau Debenhams ar agor yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 17.35
NDM7343 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb 'P-05-967 Annog Llywodraeth Cymru i ddiwygio ei pholisi ar ryddhad ardrethi annomestig i helpu i gadw siopau Debenhams ar agor yng Nghymru' a gasglodd 5,790 o lofnodion.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
10 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Covid-19 a Thrafnidiaeth
Dechreuodd yr eitem am 17.52
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7345 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu llacio'r cyfyngiadau diweddar ar deithio yn ystod coronafeirws.
2. Yn cydnabod effaith andwyol y cyfyngiadau teithio blaenorol ar berthnasoedd personol, iechyd meddwl a lles pobl, a manwerthwyr.
3. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth digonol i weithredwyr bysiau yng Nghymru yn ystod y pandemig coronafeirws.
4. Yn mynegi siom bod Llywodraeth Cymru wedi peidio â chefnogi cwmnïau hedfan i hedfan o Faes Awyr Caerdydd.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) diystyru'r angen i gyflwyno gofynion cwarantin i breswylwyr sy'n teithio i Gymru o'r tu mewn i'r Ardal Deithio Gyffredin;
b) mynd ati ar frys i adolygu a chynyddu'r cymorth sydd ar gael i weithredwyr bysiau yng Nghymru, er mwyn eu galluogi i gynyddu amlder a chapasiti gwasanaethau bysiau i bobl Cymru;
c) hyrwyddo'r broses o sefydlu llwybrau newydd o Faes Awyr Caerdydd i gyrchfannau diogel ledled y byd er mwyn ei helpu i lamu yn ôl o'r pandemig coronafeirws.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
39 |
55 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi nad yw Coronafeirws wedi diflannu er gwaethaf y ffaith bod y trosglwyddiad o fewn cymunedau wedi lleihau yn sgil y mesurau sydd wedi’u cyflwyno. Mae hyn yn cyfiawnhau dull gofalus Llywodraeth Cymru o gydbwyso’r peryglon i iechyd y cyhoedd â pheryglon economaidd, cymdeithasol ac eraill, gan gynnwys teithio.
2. Yn cydnabod y pwysau sylweddol y mae’r Coronafeirws wedi’i roi ar gyllid Llywodraeth Cymru, a heb hyblygrwydd ychwanegol gan Lywodraeth y DU, mae buddsoddiad uwch mewn un maes, fel iechyd, cymorth i fusnesau neu drafnidiaeth yn golygu bod llai o gyllid ar gael ar gyfer meysydd eraill.
3. Yn croesawu’r pecyn sylweddol o gymorth brys sydd wedi’i gyflwyno gan Lywodraeth Cymru er mwyn achub cwmnïau bysiau a threnau yng Nghymru yn ystod y pandemig.
4. Yn cydnabod swyddogaeth bwysig Maes Awyr Caerdydd yn ystod yr argyfwng, gan helpu i gludo cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol i Gymru.
5. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru:
a) gyda llywodraethau eraill datganoledig er mwyn ystyried dull ar draws y pedair gwlad ar gyfer codi cyfyngiadau teithio rhyngwladol;
b) gyda chwmnïau bysiau ac awdurdodau lleol er mwyn ystyried cynyddu gwasanaethau mewn modd priodol a rheoli hyn mewn modd cynaliadwy yn y dyfodol; ac
c) gyda Maes Awyr Caerdydd er mwyn ystyried llwybrau teithio newydd a diogelu ei ddyfodol fel rhan o system trafnidiaeth gyhoeddus integredig ar draws Cymru, a hynny er gwaethaf gwrthwynebiad parhaus gan Lywodraeth y DU mewn maes polisi sydd wedi’i gadw i raddau helaeth er mwyn sicrhau bod meysydd awyr rhanbarthol oll yn cael eu trin yn yr un modd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
26 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

4 |
22 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
11 Cyfnod pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, am 19.02, cafodd y trafodion eu hatal dros dro am 5 munud er mwyn caniatáu ar gyfer egwyl technegol cyn y cyfnod pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 19.07
12 Dadl: Cyfnod 3 y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 19.10
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, am 19.24, cafodd y trafodion eu hatal dros dro am 5 munud cyn pleidleisio ar welliannau 1, 3 a 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
29 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
29 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
1 |
41 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, am 19.38, cafodd y trafodion eu hatal dros dro am 5 munud cyn pleidleisio ar weddill y gwelliannau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
1 |
28 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
1 |
28 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
1 |
28 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
28 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
28 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
28 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 9.
Daeth y cyfarfod i ben am 19.48
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 10.00, Dydd Mercher, 15 Gorffennaf 2020